Gwybodaeth am y prosiect

Edrychwch ar y cynllun cysyniad tirwedd

Gweld maint llawn

Beth ydym ni’n ei gynnig?

© Crown copyright (2022) Cymru Wales

Rydym yn cynnig fferm solar newydd sy'n gallu cynhyrchu hyd at 35 MW o drydan gwyrdd. Mae hyn yn cynnwys:

  • Paneli ffotofoltäig solar (PV) wedi'u gosod ar y ddaear
  • Is-orsaf ar y safle
  • System Storio Ynni Batri (BESS)
  • Seilwaith cysylltiedig arall

Rydym wedi ystyried y safle'n ofalus er mwyn llywio ein dyluniad drafft cynnar. Yn gyntaf, edrychom ar ffin gyfan y safle, sydd i gyd yn eiddo i Lywodraeth Cymru, ac asesu pa mor addas fyddai i'w ddefnyddio fel fferm solar. Fe wnaethom asesu'r dopograffeg, amwynder gweledol o eiddo a Llwybr Arfordir Cymru, yr angen i osgoi asedau treftadaeth ac archeolegol, dynodiadau tir a choetir, coed a gwrychoedd presennol.

Wrth ddylunio cynllun y safle, rydym wedi ystyried eiddo a nodweddion presennol, yn ogystal ag Ysgol newydd Llyn Derw, ystâd dai Fferm Cosmeston Uchaf, a Llwybr Teithio Llesol newydd Sili i Cosmeston.

Mae ystyried yr holl ffactorau hyn wedi arwain at ddyluniad cryno, wedi'i leoli yn ardaloedd canolog a gorllewinol ffin y safle.

Darllenwch gylchlythyr diweddaraf Larnog

Darllenwch mwy

Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA)

Mae asesu effeithiau amgylcheddol posibl yn rhan allweddol o'r broses gynllunio.

Rydym wedi cyflwyno cais am Farn Gwmpasu AEA i Gyngor Bro Morgannwg, yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Gellir gweld y cais hwn ar Borth Cynllunio Bro Morgannwg. Rhif y cais yw 2026/00533/SC2.

Pwrpas gofyn am Farn Gwmpasu AEA yw pennu cwmpas y Datganiad Amgylcheddol (DA) a fydd yn cael ei baratoi i gefnogi'r cais cynllunio. Yn ogystal â nodi pa bynciau amgylcheddol y mae angen eu hystyried fel rhan o'r AEA, bydd Cyfarwyddyd Cwmpasu'r AEA hefyd yn nodi'r pynciau amgylcheddol hynny nad ystyrir eu bod yn angenrheidiol i'w hasesu ymhellach.

Bydd DA drafft ar gael fel rhan o'r rownd nesaf o ymgynghori cyhoeddus, sydd wedi'i threfnu ar hyn o bryd i ddechrau ym mis Tachwedd 2026.

Defnydd tir

Ar hyn o bryd mae'r tir yn cael ei ffermio ar gyfer cnydau. Fe'i dosbarthir fel Gradd 3b a 4 o dan y Dosbarthiad Tir Amaethyddol, sy'n golygu ei fod o ansawdd cymedrol i wael ar gyfer cynhyrchu cnydau.

Rydym yn archwilio'r cyfle i greu cynefin glaswelltir a phori anifeiliaid yn y caeau lle mae'r paneli PV wedi'u lleoli. Byddai hyn o fudd i'r tir, yn ogystal ag arallgyfeirio'r arferion ffermio ar draws y safle.

Gwella natur

Yn ogystal â chyfrannu at nod sero net Cymru ar gyfer 2050, mae gan Fferm Solar Larnog y potensial i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd lleol. Byddwn yn gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a phartïon eraill sydd â diddordeb i gyflawni buddion amgylcheddol.

Ein nod yw gofalu am natur ar y safle drwy:

  • Gyfoethogi bioamrywiaeth yn weithredol ar draws y safle, drwy wella cynefinoedd presennol a chreu cynefinoedd newydd. Drwy blannu mwy o wrychoedd a choed, ein nod yw cefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt, fel pathewod, ystlumod sy'n teithio, adar, gwenyn, pryfed, ymlusgiaid a mamaliaid.
  • Annog y boblogaeth leol o wenyn ymhellach drwy ddatblygu banciau gwenyn. 
  • Osgoi pob ardal o goetir yn ein dyluniad, gan gynnwys y rhai sydd â Gorchmynion Cadw Coed.
  • Osgoi pob Safle o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur yn ein dyluniad.
  • Gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg i ddatblygu mesurau ecolegol i ategu'r Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur y gellir eu canfod ar y safle, er enghraifft drwy greu pentyrrau cynefinoedd, rheoli rhywogaethau ymledol a chreu banciau chwilod. Os oes gennych syniadau sut y gallwn ni wella natur ar y safle, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan grwpiau amgylcheddol a chymunedol lleol.

Gwella mynediad

Rydym yn gwybod bod yr ardal yn boblogaidd gyda cherddwyr sy'n mwynhau Llwybr Arfordir Cymru a Hawliau Tramwy Cyhoeddus eraill ger y safle. Rydym yn archwilio cyfleoedd i wella'r rhwydweithiau Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar draws y safle. Rydym yn ystyried y ffordd orau o gynnal natur agored a chysylltedd ar hyd llwybrau troed wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau.

Os ydych chi'n defnyddio'r llwybrau troed lleol, rydym yn croesawu eich syniadau ar gyfer gwella mynediad o amgylch y safle.

Cysylltu â’r grid

Mae gennym gynnig cysylltiad grid dangosol i gysylltu Fferm Solar Larnog â'r grid. Bydd y pwynt a'r dyddiad cysylltu yn cael eu cadarnhau maes o law gan weithredwr y rhwydwaith ardal leol.

Os bydd y prosiect yn derbyn caniatâd cynllunio, byddwn yn trefnu’r adeiladu a’r gweithredu i gydlynu â’r dyddiad cysylltu, a ddarperir gan weithredwr y rhwydwaith ardal leol.

Ni fydd y cysylltiad grid yn rhan o'n cais cynllunio ar gyfer Fferm Solar Larnog gan y bydd y gwaith yn cael ei wneud gan y darparwr cyfleustodau o dan hawliau datblygu.

Cymdeithasol ac economaidd

Grwp o 4 person

Gan fod Trydan yn eiddo i Lywodraeth Cymru, bydd y refeniw a gynhyrchir gan y prosiect yn cyfrannu at gyllid cyhoeddus Llywodraeth Cymru, gan gefnogi buddiannau ac anghenion pobl Cymru. Mae Trydan yn agos at y prosiectau rydym yn eu hyrwyddo, ac wedi ymrwymo i weithio â chymunedau lleol, grwpiau a chynrychiolwyr, i lunio'r prosiectau a'r amrywiaeth o fuddion posibl y gallant eu cyflawni, o fuddion amgylcheddol a bioamrywiaeth i gyllid ar gyfer blaenoriaethau lleol.

Byddwn yn dechrau trafod cyfleoedd gyda thrigolion lleol a chynrychiolwyr yn ystod ein digwyddiadau ymgynghori.

Y broses gynllunio

Chwyddwydr yn archwilio dogfennau

Byddwn yn gwneud cais i Gyngor Bro Morgannwg am ganiatâd cynllunio ar gyfer Fferm Solar Larnog o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Pwyllgor Cynllunio Cyngor Bro Morgannwg sy'n penderfynu a ddylid rhoi caniatâd cynllunio.

Ar hyn o bryd rydym yn cynnal ymgynghoriad anstatudol ar ein cynlluniau drafft. Nid yw’r holl atebion gennym eto, ond rydym yn awyddus i hysbysu pobl leol am ein cynlluniau yn gynnar yn y broses gynllunio, a chael trafodaethau cychwynnol am y prosiect.

Yn ystod haf 2026, byddwn yn cynnal yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio statudol lle byddwn yn cyflwyno ein cais cynllunio drafft llawn i ymgyngoreion ac aelodau'r cyhoedd roi adborth arno.


Mae'n ofynnol i Trydan lynu wrth yr un rheolau cynllunio llym y mae'n rhaid i ddatblygwyr preifat eu bodloni, ac rydym yn cael ein dal i'r un safonau.

Mae gwaith Trydan yn cael ei oruchwylio gan Weinidog Cabinet Llywodraeth Cymru dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni.